Dyfroedd arfordir Cymru: Pysgod gwastad, cartilagaidd yw cathod môr yn perthyn I’r un teulu â’r siarc a’r penci. Y mae yna dros bum cant o rywogaethau drwy’r byd I gyd gyda rhyw ddwsin I’w cael yn nyfroedd arfordir Cymru. Maent I’w gweld uwchben amrywiaeth o gynefinoedd ar wely’r môr ac meant yn werthfawr I’r rhai sydd yn pysgota yn fasnachol yn ogystal ag I’r rhai sydd yn pysgota o ran pleser. 
Mae morgathod wedi bod ar ein planed am dros 350 miliwn o flynyddoedd ymhell cyn y deinosoriad. Yn ystod y cyfnod yma daethant yn dra esblygedig ac meant wedi datblygu nod weddion arbenigol iawn. Mae ganddynt gartilag yn hytrach nag esgyrn ac meant yn nodweddiadol wedi’u gorchuddio â dannedd bychain a elwir yn ddeintigau croenol. Mae’r deintigau yn lleihau rhwbiad tra’n nofio trwy’r dwr ac meant yn amddiffynfa rhag rheibwyr. Mae nifer o rywogaethau unigol wedi datblygu eu harbenigedd eu hunain.
Morgathod du yw rhai o’r morgathod a welir amlaf mewn dyfroedd trofannol. Mae ganddynt bigyn gwenwynig are u cynffon sy’n cael ei ddefnyddio I amddiffyn. Ceir ychydig o rywogaethau wemn dyfroedd mwy claear a thymherus. Mae’r rhywogaeth yma, y forgath ddu, I’w gweld yn y haf oddiar arfordiroedd deheuol Ynysoedd Prydain. Bydd’lloi bach’y morgathod duon yn cael eu geni’n fyw.
Mae gan y rhan fwyaf o forgathod bigyn are u tu uchaf a’u cynffon. Mae’r geg, y ffroenau a phum pâr o agennau tegyll ar du isaf I pysgodyn gyda’r llygaid ar y tu uchaf. Mae’n hawdd gwahaniaethu rhwng y gwryw a’r fenyw oherwydd mae gan y gwryw bâr o gydwyr yn gysylltiedig â’I esgyll pelfig. Caiff morgathod, y forgath felen er enghraifft, eu cadw yn aml mewn swau môr a byddant yn addasu’n dda I fywyd o gaethiwed. (Rydym yn galw’r rhywogaeth gyda thrwyn hir yn ‘forgathod trwynfain’ a’r rhai gyda thrwynau byrrach, fel yr enghraifft yma, yn ‘forgath’ a gall gyn fod yn ddryslyd). 
Yn wahanol I’r forgath drydan a’r forgath ddu sy’n rhoi genedigaeth I loi byw, bydd y forgath drwynfain yn dowdy wyau ar wely’r môr a bydd gwahanol rywogaethau yn dowdy wyau o wahanol faint a siâp. Chwilerod y forgath felen, y forgath bigig a’r forgath fannog a welir yn y llun yma. Bydd y rhai ifainc yn datblygu dros gyfnod 0 6-9 mis ac yn deor o’r wy fel ffurfiau llai o’r pysgod llawn dwf. Yn aml caiff y chwilerod (neu byrsiau’r fôr forwyn) sy’n amddiffyn yr ifainc wrth iddynt ddatblygu eu golchi I’r lan ar ôl stormydd. Mae gweld nifer fawr o chwilerod ar draeth neu bygod benyw wedi’u dal pan ar fin deor yn arwydd fod o bosibl feithrinfa gerllaw.
Bydd morgathod yn byw yn hir. Y forgath yw’r fwyaf ac mae’n tyfu at 2.5m o hyd (100kg). Ar ôl iddi gyrreadd ei llawn dwf pan mae tua deg oed, bydd y fenyw yn mesur 125cm, yn dowdy tua 40 o wyau y flwyddyn ac yn byw am 50 o flynyddoedd. Mae hyn yn ei rhoi mewn cryn berygl o gael ei gorbysgota. Hyd at y 1930au, y forgath drwynhir oedd un o’r morgathod mwyaf niferus a gwerthfawr I gael el dal a’I chludo I’r lan. Bydda nifer yn cael eu dal yn nyfroedd Cymru. Yn anffodus ni allay dyfu ac atgenhedlu yn ddigon cyflym I wneud I fyny am y niferoedd oedd yn cael eu dal. Erbyn hyn mae’n ddiflanedig yn y rhan helaeth o Ynysoedd Prydain a d  im ond weithiau y caiff ei dal oddiar lannau Yr Alban a’r Iwerddon ble y mae mewn perygl.
Gan fod morgathod yn bysgog mawr, gwastad cant eu dal yn rhwydd mewn rhwydi drysu a llusgrwydi, hyd yn oed cyn iddynt gyrraedd eu llawn dwf. O ganylyniad I orbysgota, mae cyfanswm rhif a chyfartaledd maint morgathod pigog sy’n cael eu dal yng Ngymru yn lleihau. Bydd y morgathod hyn yn dechrau aeddfedu pan fyddant tua phum mlwydd oed a thua 65-75cm o hyd. Fel y forgath drwynfain o’u blaen , bydd nifer yn cael eu dal cyn iddynt fod yn ddigon hen I fridio.
|